Llawrlwythwch eich Pecyn Dadlau Brechiadau Cymraeg heddiw!

Mae’r Pecyn Dadlau Brechiadau, a grëwyd ar ran eBug, yn gofyn:

A ddylai fod yn ofynnol i blant gael eu holl brechiadau cyn y gallant fynd i’r ysgol?

Datblygwyd y Pecyn Dadlau Brechiadau yn ôl yn 2015. Ond, mewn blwyddyn lle mae brechlynnau wedi cipio’r penawdau ac wedi effeithio ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau, mae’r pecyn wedi profi’n fwy amserol nag erioed.

Mewn partneriaeth a Gweld Gwyddoniaeth, Ymgynghorwyr Addysg a Chyfoethogiad rydym bellach wedi datblygu fersiwn Cymraeg o’n Pecyn Dadlau Brechiadau poblogaidd.

Heriwch eich myfyrwyr i archwilio’r polisïau iechyd cyhoeddus gorau i amddiffyn y cyhoedd wrth gydbwyso rhyddid yr unigolyn, yn eu hiaith gyntaf.

Mae’r Pecyn Dadlau yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gynnal gwers 50 munud, gan ddarparu safbwyntiau gwahanol mewn cardiau cymeriad i annog eich myfyrwyr i ystyried ffactorau cymdeithasol a moesegol brechiadau.

Llawrlwythwch eich Pecyn Dadlau Brechiadau Cymraeg nawr ❯

View this information in English ❯

Posted on June 30, 2021 by modjosie in News. Tagged . Leave a comment

Leave a Comment